top of page
premium_photo-1661935689036-b31ea9ad043f.avif

Ynglŷn â'r Prosiect

Mae'r prosiect hwn yn archwilio'r cysylltiad rhwng hunaniaeth genedlaethol ac amaethyddiaeth yng Nghymru a Gwlad Pwyl yng ngoleuni Perchentyaeth, sef dadl Saunders Lewis bod ffyniant busnesau a ffermydd bach-canolig lleol yn angenrheidiol ar gyfer cynnal gwladgarwch a gwarchod treftadaeth ddiwylliannol.

 

Er bod ffermio teuluol wedi bod yn ganolog i fywyd a diwylliant ‘gwerin’ a hunaniaethau cenedlaethol y ddwy wlad, maent serch hynny yn wynebu bygythiadau cynyddol wrth i’r diwydiant ffermio gael ei fecaneiddio a’i ddisodli’n gynyddol gan gwmnïau mawr rhyngwladol amhersonol heb gyfrifoldebau lleol. Effaith hyn yw gostyngiad parhaus mewn traddodiadau lleol megis crefftau, capeli, eisteddfodau, clybiau, enwau lleoedd ac ati. Trwy gasglu safbwyntiau lleol, straeon llwyddiant a methiant ynglŷn â mentrau adfywio cymunedau, a dadansoddi'r syniadau athronyddol sylfaenol, mae'r astudiaeth hon yn cymharu perthnasedd cyfredol Perchentyaeth yn y ddwy wlad.

Photos.jpeg

Postiadau Diweddaraf

!

Dysgwch Fwy

Pwy oedd Saunders Lewis? 

Saunders Lewis (1893-1985) oedd pensaer cenedlaetholdeb Cymreig modern a llywydd cyntaf Plaid Cymru. Caiff ei adnabod heddiw am weithredoedd fel Tân yn Llŷn a'r anerchiad radio Tynged yr Iaith; dau ddigwyddiad a drawsnewidiodd drywydd yr iaith Gymraeg a’r genedl yn yr 20fed ganrif. Yn ogystal â bod yn fardd, nofelydd, hanesydd, ac enwebai Gwobr Nobel, dadleuodd hefyd o blaid Perchentyaeth, sef cynllun ar gyfer adnewyddiad economaidd, diwylliannol a ieithyddol, a gafodd ei ddylanwadu gan gymysgedd o syniadaeth canol-oesol, dysgeidiaeth gymdeithasol Gatholig, ac ethnograffeg.

 

Beth yw'r cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a Gwlad Pwyl?

Ar un olwg, gellir ymddangos nad oes gan y ddwy wlad fawr ddim yn gyffredin. Tra bod hyfywedd yr iaith Gymraeg ynghlwm â hyfywedd cymunedau ei chadarnleoedd gwledig traddodiadol, ni ellir dweud yr un peth am Wlad Pwyl. I’r gwrthwyneb: mae'r iaith Bwyleg yn ffynnu, ac mae'r berthynas rhwng tir, tafodiaith, a hunaniaeth ddiwylliannol ranbarthol yn llawer llai uniongyrchol, o ystyried y trosglwyddiadau poblogaeth ar ôl y rhyfel a gormes y llywodraeth o dafodieithoedd rhanbarthol yn ystod y cyfnod comiwnyddol. Serch hynny, mae sawl cysylltiad sy'n gofyn am gymhariaeth draws-ddiwylliannol: 

Effeithiau Anghymesur Newidiadau Amaethyddol:

Yn draddodiadol, mae ffermio teuluol wedi bod yn ganolog i ddiwylliant gwerin a hunaniaeth genedlaethol y ddwy wlad, ond mae'r ddwy wedi cael eu heffeithio'n anghymesur gan ailstrwythuro neo-ryddfrydol eu cymunedau cefn gwlad yn ystod y degawdau diwethaf. Er bod Cymru’n profi lefelau digynsail o ffermydd yn cau bob blwyddyn, gwelodd Gwlad Pwyl ddiflaniad 340,000 o ffermydd bach a chanolig yn 2010-20 yn unig. Mae nifer uchel ffermydd llai yn y ddwy wlad wedi golygu bod ffactorau megis lleihad mewn elw, costau cynhyrchu cynyddol a gofynion datgarboneiddio wedi ysgogi twf corfforaethau 'Big Ag' ac ymerodraethau bwyd sy'n prysur ddisodli ffermydd llai o faint. 

Rôl Dysgeidiaeth Gymdeithasol Gatholig (CST) yng Nghenedlaetholdebau Cymru a Gwlad Pwyl:

Yng Nghymru, roedd rhaglen Perchentyaeth Lewis yn seiliedig ar egwyddorion ‘distributism’ a ‘subsidiarity’ fel y'u mynegwyd yng nghylchlythyron y Pabau Leo XIII (1891) a Pius XI (1931). Yn ôl yr egwyddorion hyn, dylid (1) dosbarthu eiddo mor eang â phosib trwy fusnesau bach a chanolig a chwmnïau cydweithredol; a (2) gwneud penderfyniadau ynghylch llywodraethu ar y lefel isaf, fwyaf lleol sy'n bosib. Cafodd yr egwyddorion hyn, sy'n ymwneud yn sylfaenol ag urddas gwaith a llafur, arwyddocâd ysbrydol gwaith, a chyd-ymdreiddiad diwylliant ac economeg, eu datblygu gan Blaid Cymru mewn i raglen o bolisïau 'yn ôl i'r tir' ar gyfer adfywio gwledig. Er prin y cydnabyddir eu gwreiddiau heddiw, gellid gweld eu dylanwad serch hynny mewn nifer o strategaethau a mentrau Llywodraeth Cymru fel Cymru 2050, ARFOR, a Gwarchod. 

Yng Ngwlad Pwyl, ni ellir gorbwysleisio dylanwad CST ar Solidarność o ran hawliau gweithwyr, solidariaeth, eiddo preifat, llafur ac urddas. Trwy eu lledaeniad gan Jan Paweł II a Józef Tischner, trosglwyddwyd y syniadau hyn yn bennaf trwy'r eglwysi a daethant i fod yn seilwaith ddeallusol ar gyfer egwyddorion Solidarność. Fel yn achos Cymru, cafodd yr ymgyrch cenedlaethol yng Ngwlad Pwyl ei fframio fel adnewyddiad moesol ac ysbrydol wedi’i seilio ar egwyddorion CST ynghylch gwaith, urddas a pherchnogaeth. Heddiw, mae'r bygythiadau economaidd a diwylliannol mae ffermwyr Pwylaidd yn eu hwynebu yn parhau i ymwneud â'u hawliau, urddas a stiwardiaeth tir sy'n tarddu o CST. Mae'r Eglwys Gatholig yn parhau i fynegi ei chefnogaeth o'r ffermwyr yn gyhoeddus yn y fath dermau, mae cefn gwlad Gwlad Pwyl yn parhau i fod yn Gatholig ar y cyfan, ac mae Wiejska Solidarność yn parhau i arddel eu byd-olwg Catholig. 

Pentref Pwylaidd Penrhos yng Nghymru

​Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, sefydlwyd Penrhos ar gyfer cyn-filwyr Pwylaidd a'u teuluoedd oedd methu dychwelyd i Wlad Pwyl. Er ei fod nawr yn cael ei ail-bwrpasu, mae aelodau o'r gymuned Bwylaidd-Gymreig yn dal i breswylio ym Mhenrhos, ac mae ganddi eglwys Bwylaidd gyda murlun o fedydd Gwlad Pwyl (gweler y llun isod), cysegrfeydd i’r Czarna Madonna z Częstochowy, a cherflun o Wojtek yr arth a ymladdodd gyda'r 2il Gorfflu Pwylaidd. Mae Penrhos yn parhau i gael ei ddathlu fel cadarnle cyfeillgarwch Pwylaidd-Cymreig ac i goffáu Lluoedd Arfog Gwlad Pwyl, ac mae rhaglen ddogfen amdano yn cael ei chreu ar hyn o bryd yn Ysgol Ffilm Łódź.

Yn rhyfeddol, mae Penrhos hefyd yn digwydd bod ger yr un safle lle digwyddodd Tân yn Llŷn . Yma, llosgodd Saunders Lewis, D.J. Williams a Lewis Valentine ysgol fomio'r RAF ym 1936, a oedd wedi cael ei adeiladu gan lywodraeth y DU - er gwaethaf protestiadau hanner miliwn o Gymry - ar safle ffermdy Penyberth a gafodd ei ddymchwel yn y broses. Roedd y ffermdy wedi bod yn gartref i werth canrifoedd o feirdd a noddwyr nodedig, yn ogystal â Chatholigion anghydffurfiol. Felly, roedd y cyhoedd yn gweld ei ddymchweliad (ynghyd â'r ffaith bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar 400 mlwyddiant y Deddfau Uno), fel enghraifft bellach o ddiffyg parch Lloegr tuag at dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae yna hefyd Groes Ryddid ym Mhenrhos a adeiladwyd gan filwyr Pwylaidd ym 1947 gan ddefnyddio deunyddiau wedi eu dwyn o'r ysgol fomio. O dan y groes mae'r arysgrif 'Ar y ffordd i Bwyl Rhydd' wedi'i cherfio mewn Pwyleg, Cymraeg a Saesneg.

Delwedd WhatsApp 2026-01-24 am 17.03.04.jpeg
bottom of page